D10
Ymchwiliad i Ddeintyddiaeth yng Nghymru / Inquiry into Dentistry in Wales
Ymateb gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol
Response from the General Dental Council

 

Ymateb y Cyngor Deintyddol Cyffredinol i’r alwad am dystiolaeth gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ddeintyddiaeth yng Nghymru

 

Cyflwyniad

 

1. Mae’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC) yn falch o’r cyfle i roi ei farn i’r ymchwiliad undydd gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

2. Mae’r GDC wedi nodi cylch gorchwyl yr ymchwiliad, ac mae’r ymateb hwn yn canolbwyntio ar y materion hynny sy’n dod o fewn cwmpas pwerau’r GDC. I’r perwyl hwn, mae’r ymateb hwn yn ymdrin â hyfforddi, recriwtio a chadw deintyddion yng Nghymru.

 

Cefndir

 

3. Cyhoeddwyd Cynllun Cenedlaethol Cymru ar gyfer Iechyd y Geg 2013-18[1] ym mis Mawrth 2013. Ymhlith pethau eraill, nododd y cynllun fod:

 

·         Mynediad i ddeintyddion yn amrywio’n helaeth yn dibynnu ar yr ardal

·         Angen dybryd i gadw gwasanaethau deintyddol yn fforddiadwy

·         Mynediad i wasanaethau arbenigol yn amrywio cryn dipyn mewn gofal sylfaenol a gofal eilaidd

·         Angen i bob Bwrdd Iechyd fonitro’r gweithlu deintyddol er mwyn mapio ac asesu angen i’r dyfodol

·         Newidiadau rheoleiddiol a gyflwynwyd gan y GDC yn ddiweddar wedi cynorthwyo i gynyddu’r cyfleoedd i wella’r cymysgedd sgiliau yn y tîm deintyddol

 

4. Roedd y Cynllun yn disgrifio camau gweithredu i fynd i’r afael â’r pwyntiau uchod; o ran monitro’r gweithlu deintyddol, roedd y Cynllun yn nodi’r canlynol:

 

Dylai pob Bwrdd Iechyd fonitro ei weithlu deintyddol o ran ei anghenion nawr ac yn y dyfodol. Bu cynnydd mawr yn yr hyfforddiant a roddir i weithwyr gofal deintyddol proffesiynol ac mae hyn, ynghyd â'r newidiadau rheoleiddiol a wnaed gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, yn golygu ei bod yn llawer mwy tebygol y bydd y tîm deintyddol yn cynnwys cymysgedd o sgiliau. Mae angen i Fyrddau Iechyd ystyried cynllunio ar gyfer olyniaeth; adolygu'r cymysgedd sgiliau; addysg a hyfforddiant; recriwtio a chadw; DPP; a datblygu gyrfaoedd. Yn amlwg, drwy gynllunio gwasanaethau deintyddol yn lleol, gall y GIG ddatblygu'r gwasanaethau mwyaf priodol a thargedu adnoddau at y mannau lle mae eu hangen fwyaf. Mae'r data sydd ar gael ar hyn o bryd ar y gweithlu deintyddol yng Nghymru yn amrywio, ac mae angen gwella ansawdd y wybodaeth sydd ar gael.

 

 

Sefyllfa gyfredol

 

5. Mewn dogfen ddiweddar (Mawrth 2017) yn amlinellu blaenoriaethau ar gyfer deintyddiaeth a gwaith yn y dyfodol (Symud Ymlaen i Wella Iechyd y Geg a Gwasanaethau Deintyddol yng Nghymru)[2] , nodwyd bod iechyd y geg wedi gwella yng Nghymru ond bod mynediad at wasanaethau deintyddol yn amrywio’n fawr o hyd. Hefyd, nodwyd bod recriwtio a chaffael i ddenu mwy o ddeintyddion yn anodd mewn rhai ardaloedd.

 

6. Ni fu unrhyw ddatblygiadau o bwys mewn perthynas â hyfforddiant deintyddion yn y pum mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, yn unol â chamau a gymerwyd i foderneiddio’r drefn reoleiddio ar gyfer deintyddion, mae’r ffordd mae Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo deintyddion i gynnal a datblygu eu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau proffesiynol wedi cael ei diwygio hefyd. Dechreuodd system Datblygiad Proffesiynol Parhaus ddiwygiedig ar gyfer deintyddion ar 1 Ionawr 2018.

 

7. Mae yna ysgol ddeintyddol sefydledig yng Nghaerdydd, sydd fel rheol yn cynhyrchu 70-75 o ddeintyddion cymwysedig bob blwyddyn ac yn symud i swyddi hyfforddi. Mae nifer y deintyddion sy’n cael eu hyfforddi yng Nghymru a’r cyllid ar gyfer hyfforddiant yn cael ei bennu’n flynyddol gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, nid yw swyddogaethau statudol y GDC yn ei gwneud hi’n ofynnol iddo fonitro faint o raddedigion sy’n aros yng Nghymru, nac a ydynt yn aros yn y sector gofal sylfaenol neu ofal eilaidd nac i ba raddau maent yn ymarfer yn breifat. Yn hytrach, rydym ar ddeall bod darlun mwy cywir yn debygol o fod ar gael drwy’r trefniadau comisiynu ar gyfer gwasanaethau deintyddol ac mae gan y Byrddau Iechyd ddiddordeb brwd yn y rhain.

 

8. Gan ystyried bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio o ddydd i ddydd mewn sawl rhan o’r gogledd a’r gorllewin, rydym o’r farn y byddai o gymorth cael mentrau i gymell a denu darpar israddedigion Cymraeg eu hiaith addas o’r ardaloedd hyn i hyfforddi yn Ysgol Ddeintyddol Caerdydd ac yna i raddedigion gael cymhellion pellach i ddychwelyd i’r ardaloedd hyn i ymarfer.

 

9. Rydym wedi nodi bod esboniad clir o fanteision mynediad gwell at weithlu deintyddol mwy hyblyg yng Nghymru wedi’i roi yn “Symud ymlaen i wella iechyd y geg a gwasanaethau deintyddol yng Nghymru[3]. Mae’r dull a ddisgrifir yn cefnogi ymarfer deintyddol clinigol gwell a mwy o ffocws ar wella effeithiolrwydd clinigol a chanlyniadau cleifion, ynghyd â defnyddio’r tîm deintyddol cyfan i wella iechyd y geg gydol oes drwy gynhyrchu a chyfathrebu negeseuon clir ar atal, y cyfan gyda’r bwriad o leihau’r galw am wasanaethau yn y dyfodol. 

 

11. Deallwn fod bwriad i gynyddu’r capasiti hyfforddi ar gyfer gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol yng Nghymru. Rydym yn cydnabod y bydd hyn yn rhoi mwy o gyfle yn y pen draw i gynyddu gweithio hyblyg mewn timau deintyddol yng Nghymru, gan gynyddu’r cyfleoedd i ddeintyddion cymwysedig ganolbwyntio ar ddarparu’r gwasanaethau mai nhw yn unig sydd â’r caniatâd cyfreithiol i’w cyflawni.

 

Casgliad Cyffredinol

 

12. Mae’r GDC yn cydnabod y manteision amlwg a ddaw yn sgil cyhoeddi cyfeiriad strategol clir ar gyfer iechyd y geg ymysg poblogaeth Cymru, sy’n cynnwys cynllunio ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol ac esboniad o’r gweithlu sydd ei angen i gyflawni hyn. Credwn hefyd fod adrodd yn rheolaidd ar gynnydd o ran gweithredu’r strategaeth yn cynorthwyo pawb i asesu’r blaenoriaethau cymharol (a gwneud penderfyniadau addas am y defnydd o adnoddau) ac i werthuso’r canlyniadau llwyddiannus yn ogystal â’r meysydd lle mae angen ymyrraeth barhaus o hyd.

 

13. Nodwn fod Prif Swyddog Deintyddol Cymru wedi dangos arweiniad cadarn wrth gyfathrebu (yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru CIC  019 – Sicrhau’r cydbwysedd cywir yng Nghymru) y trefniadau ar gyfer ymchwilio’n effeithiol ac yn gymesur i gwynion yn erbyn deintyddion sy’n ymarfer yng Nghymru. Mae hyn yn amlinellu’r model a fydd yn sicrhau y gall y cyhoedd, y proffesiwn deintyddol, byrddau iechyd a’r GDC fod yn hyderus bod perfformiad deintyddol sy’n destun pryder yn gallu cael ei nodi’n brydlon a chael sylw cymesur er mwyn diogelu cleifion a chefnogi aelodau cofrestr y GDC. Mae hyn yn cyd-fynd â rhaglen ar gyfer rheoleiddio priodol sy’n cael ei datblygu o fewn y GDC a bydd yn sicrhau mwy o eglurder i gleifion a’r cyhoedd yn gyffredinol.

 

14. Rydym yn bwriadu gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru wrth i ni ddatblygu ein rhaglen i ddiwygio a moderneiddio’r system reoleiddio ar gyfer y tîm deintyddol. Nodwn ein bod wedi cael ymateb adeiladol iawn i’n hymgynghoriadau (ffurfiol ac anffurfiol) eisoes ac rydym yn gwerthfawrogi’r wybodaeth a phrofiad y gall cydweithwyr yng Nghymru eu cyfrannu o ran sut bydd unrhyw drefniadau newydd yn esblygu. Yn arbennig, byddwn yn parhau i wneud asesiad ar y cyd o effaith canlyniad y trafodaethau ynghylch y DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a’r effaith ar hyn o bryd ac yn y dyfodol ar ddarparu gwasanaethau deintyddol ataliol a deintyddol nid yn unig yng Nghymru ond yn ehangach yn y DU.

 

 

Cyngor Deintyddol Cyffredinol

Llundain

Awst 2018

 

 

 

 

 

 



[1] https://gov.wales/docs/dhss/publications/130322oral-healthcy.pdf

[2] https://gov.wales/docs/phhs/publications/170815oralhealthcy.pdf

[3] https://gov.wales/docs/phhs/publications/170815oralhealthcy.pdf